🟢 Actively Hiring · 9d ago ⏳ Closes in 82 days 🇬🇧 UK Corridor 🛡️ UK Work Eligibility 🏢 Company - Private

Rheolwr yr Ystafell Ffitrwydd

🏢 Rhondda Cynon Taf · 📍 Llantrisant, Isle of Anglesey, Wales · 🕒 Oct 14, 2026 · Ref: OP-VERIF-13A816A1
Benchmark Compensation (Annual Base)
£24,054 - £24,054
£2,005 - £2,005 / mo
Apply Directly →
🛡️ Career Integrity & Compliance Audit
✓ Verified Opening

This opening is authenticated by Digital. We enforce strict salary disclosure and guarantee zero processing or placement charges.

Employer Registration UK Companies House active entity
Wage Standards UK National Living Wage & Equality Act
Applicant Protections 100% Free direct candidate application
SPONSORED CAREER ADVISORY AD

Position Overview & Specifications

Math o Swydd Hamdden Cyfadran Gwasanaethau Cymunedol i Blant Adran Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned Gradd Gradd 6 Cyflog Penodol £24,054 Math o Gytundeb Amser Llawn Parhaol Testun yr Hysbyseb

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r garfan reoli yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant. Rydyn ni am benodi Rheolwr yr Ystafell Ffitrwydd.

Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant i reoli ein hystafell ffitrwydd a'n rhaglen ddosbarthiadau brysur. Byddwch chi'n rheoli carfan fach o weithwyr ffitrwydd proffesiynol gan sicrhau'r gwasanaeth i gwsmeriaid o'r safon uchaf a sicrhau bod dosbarthiadau a'r gampfa yn cael eu defnyddio i'w llawn botensial. Bydd y rôl yn gofyn am ddull gweithredu ymarferol gan weithio ar lawr y gampfa. Bydd gofyn hefyd i weithio'n agos â charfan reoli'r ganolfan a chael mewnbwn gwerthfawr i'r gwaith o redeg y ddarpariaeth iechyd a ffitrwydd o ddydd i ddydd yn y ganolfan yn ogystal â gweithredu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Mae'r rôl yn galw am weithio yn ystod y dydd, gyda'r nos, dros y penwythnos ac ar wyliau banc ar sail rota.

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn dysgu rhagor am y swydd yma, cysylltwch â Gary Dalton – Rheolwr Hamdden neu Hannah Hibben – Rheolwr ar Ddyletswydd ar (01443) 224616.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.


Oriau gwaith 37 awr yn unol â'r rota staff Lleoliad Gwaith Llantrisant Leisure Centre Southgate Park Llantrisant Lleoliad Gwaith CF72 8DJ Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig - ~~DAY~~ Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig - mis Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig - blwyddyn 14 Mawrth 2023

INTERNATIONAL TALENT PLACEMENT NETWORK SPONSORED

Ready to Apply for this Opportunity?

Submit your candidate profile directly. No intermediary fees, no recruiter lock-in.

Continue to Application → Browse More UK Jobs

Similar Verified Career Openings