🟢 Actively Hiring · 8d ago ⏳ Closes in 83 days 🇬🇧 UK Corridor 🛡️ UK Work Eligibility 🏢 Government

Seicolegydd Addysg

🏢 Cardiff Council · 📍 Cardiff, Wales · 🕒 Oct 14, 2026 · Ref: OP-VERIF-ADD26728
Benchmark Compensation (Annual Base)
£38,865 - £57,544
£3,239 - £4,795 / mo
Apply Directly →
🛡️ Career Integrity & Compliance Audit
✓ Verified Opening

This opening is authenticated by Digital. We enforce strict salary disclosure and guarantee zero processing or placement charges.

Employer Registration UK Companies House active entity
Wage Standards UK National Living Wage & Equality Act
Applicant Protections 100% Free direct candidate application
SPONSORED CAREER ADVISORY AD

Position Overview & Specifications

Am Y Gwasanaeth

Mae gan y seicolegydd addysg yn y Tîm Rhieni a Mwy rôl wrth gymhwyso seicoleg i lywio darnau o waith personol gyda rhieni a'u babanod a'u plant bach ledled Caerdydd.

Mae'r seicolegydd addysg yn gwneud arsylwad ac asesiad cychwynnol o gryfderau, amgylchiadau a meysydd newid posibl y rhiant a'r plentyn, yn ystod ymweliad cychwynnol â'r cartref. Mae targedau personol ar gyfer newid yn cael eu cydlunio â'r rhiant yn ystod y sesiwn hon ac mae'r darn o waith personol wedi'i lunio gan y Seicolegydd Addysg a’r ymarferydd Rhieni a Mwy. Mae’r ymarferydd yn cyflawni'r ymyrraeth yng nghartref y teulu gyda goruchwyliaeth reolaidd gan y Seicolegydd Addysg.

Prif rôl y Seicolegydd Addysg fydd:

  • Asesu, cydlunio a goruchwylio'r ymyriadau rhiant-blentyn ar sail seicoleg a ddarperir gan yr ymarferwyr o fewn y tîm.
  • Cynnal darnau unigol o waith achos, gan ddefnyddio dulliau sydd wedi cael eu profi i wella rhyngweithio a pherthnasoedd rhwng rhieni a phlant (e.e., VIG).
  • Cymryd rhan mewn ymgynghoriad a hyfforddiant i hyrwyddo dull seicolegol o fewn y tîm a‘r gwasanaethau Cymorth Cynnar ehangach.
  • Hyrwyddo hyder, ymdrechion a gallu'r rhieni rydym yn gweithio gyda nhw i gefnogi rhyngweithio a pherthnasoedd rhwng rhieni a phlant a diwallu anghenion datblygiadol unigryw eu plant.
  • Cyfrannu at wella canlyniadau plant trwy hyrwyddo eu twf, eu datblygiad, eu dysgu a’u lles.
  • Ymgymryd â gwaith ymchwil seicolegol perthnasol a lledaenu’r canlyniadau.

Cewch eich cefnogi gyda chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus. Byddwch yn cael ffôn, cyfrifiadur personol a'r adnoddau a'r cymorth bydd eu hangen arnoch i deimlo'n hyderus ac yn ddiogel yn eich rôl.

Mae nifer ein staff sy’n aros gyda ni yn uchel ac mae ein cydweithwyr yn dweud:

"Fel seicolegydd, mae cyfrannu at broses newid dros amser yn hynod foddhaol. Mae gallu treulio amser yn cael trafodaethau manwl gan ddefnyddio fframwaith datrys problemau, cynllunio ymyriadau ac yna adolygiad parhaus a phrofion damcaniaethol, yn caniatáu amser i feddwl am seicoleg a'i rhoi ar waith.

"Ar ôl gweithio fel Seicolegydd Addysg ysgol am nifer o flynyddoedd, roedd symud i weithio mewn cyd-destun gwahanol yn risg, ond mae'r ethos a'r cymorth sefydliadol yn gadarnhaol dros ben. Mae'r cyfleoedd DPP yn rhagorol a rhoddir amser ar gyfer twf a datblygiad."

"Mae gweithio yn y tîm cefnogol hyfryd hwn yn rhoi cyfle i mi fel Seicolegydd Addysg i roi seicoleg ar waith bob dydd, a hynny ar bob lefel wahanol, yn ogystal â gwneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd."

Am Y Swydd

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Rydym yn chwilio am seicolegydd cymwys sydd wedi’i gofrestru gyda’r CPIG, sy’n bodloni’r canlynol:

  • Mae’n awyddus i ennill profiad o weithio fel seicolegydd cymhwysol yn y gymuned.
  • Hoffai ddatblygu arbenigedd/gwybodaeth arbenigol wrth weithio gyda theuluoedd.
  • Mae ganddo ddiddordeb mewn defnyddio dulliau ymlyniad a pherthynol yn ei ymarfer.
  • Mae’n awyddus i ddefnyddio goruchwyliaeth i archwilio syniadau a chynnig mewnbwn seicolegol i dîm sefydledig ac ymroddedig o Swyddogion Cyswllt Cartref.
  • Mae’n fodlon ac yn gallu cyflwyno hyfforddiant i gyfrannu at y Gwasanaethau Cymorth Cynnar ehangach.
  • Hoffem ddatblygu gwybodaeth/arbenigedd arbenigol wrth weithio gyda theuluoedd yn y Blynyddoedd Cynnar.

Rydym yn hapus derbyn ceisiadau gan Seicolegwyr Addysg dan Hyfforddiant a fydd yn cymhwyso yn 2023, ac o Seicolegwyr Addysg profiadol a allai fod yn chwilio am rôl neu secondiad proffesiynol newydd. Bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd i fodloni anghenion teuluoedd sy’n gweithio.

Gwybodaeth Ychwanegol

Yr ystod cyflog yw Soulbury A 1-6 ynghyd â hyd at 3 SPA.

Cyfweliadau yn digwydd Gorffennaf 24ain.

Os hoffech drafod y swydd cyn gwneud cais, rydym yn croesawu trafodaeth! Cysylltwch â Sarah Fitzgibbon (Uwch Seicolegydd Addysgol a Rheolwr y Gwasanaethau Rhianta) sarah.fitzgibbon@caerdydd.gov.uk

Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2024. Mae’r swydd yn amodol ar gael arian grant gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Dirprwy Gyfarwyddwr / Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, nad ydynt ar raddfa is na RhG2, neu’r Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion, sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

  • Canllawiau Gwneud Cais
  • Gwneud cais am swydd â ni
  • Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:-

  • Siarter y Gweithwyr
  • Recriwtio Cyn-droseddwyr
  • Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02977
INTERNATIONAL TALENT PLACEMENT NETWORK SPONSORED

Ready to Apply for this Opportunity?

Submit your candidate profile directly. No intermediary fees, no recruiter lock-in.

Continue to Application → Browse More UK Jobs

Similar Verified Career Openings